Cwmni Buddiannau Cymunedol ‘Beyond the Boundaries’-  Cwmni  Cymdeithasol

Thursday, 02 March 2017
Cwmni Buddiannau Cymunedol ‘Beyond the Boundaries’- Cwmni Cymdeithasol

Salon prydferthwch yw B.T.B., ond salon prydferthwch unigryw! 

Agorwyd y salon er mwyn rhoi’r cyfle i oedolion gydag anghenion ychwanegol i weithio.  Mae sylfaenydd y cwmni Jill Smith yn entrepreneur cymdeithasol ac wedi cymhwyso fel athro yn ogystal ag arbenigwr trin gwallt.  Cafodd ei syniad hi ei ysbrydoli gan Lewis Roberts, nai iddi sydd efo anabledd dysgu.  Ar hyn o bryd, mae Lewis yn astudio sgiliau byw annibynnol mewn coleg lleol, ond mi oedd Jill yn poeni am y diffyg cyfleoedd gwaith unwaith iddo adael y coleg.   

Cynllun Jill yw bod oedolion sydd yn wynebu'r un heriau â Lewis yn datblygu sgiliau sylfaenol megis sgiliau pobl, gweithio mewn tîm, sgiliau teleffon a chadw tŷ yn ogystal â sgiliau mathemategol a llythrennedd. 

Meddai hi,

“Amcan y siop yw helpu oedolion ifanc ag anghenion ychwanegol sydd yn byw yn Sir y Fflint sydd i feddu ar sgiliau i’r gweithle a Lewis oedd fy ysbrydoliaeth, oherwydd unwaith iddynt gyrraedd pump ar hugain oed nid oes unrhyw obeithion am waith.   Rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â darparu cymorth i bobl ifanc sy'n byw ag anghenion cymhleth ac fe fyddent yn cael eu cefnogi i fod yn un o’r tîm ac i ddatblygu sgiliau a chyfrifoldebau arbennig.   Bydd eu cyfraniad yn cael ei gydnabod  bob amser ac mi fyddant yn derbyn cyflog a fydd yn rhoi ymdeimlad o werth a chyflawniad iddyn nhw."

Y cyntaf i elwa yw Joanne Liversage, sy’n hogan leol. 

Meddai hi,

“Dwi’n mwynhau llawer a mae nhw’n fy nhalu!  Os na fydden i fan hyn, buaswn i yn diflasu ar wylio teledu.  Rydw i’n clirio’r gwallt, rhoi paned i bawb ac yn golchi gwallt hefyd.”

Mae Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn dymuno pob llwyddiant i Gwmni Buddiannau Cymunedol ‘Beyond the Boundaries’ ac yn falch i gydweithio gyda chwmni mor arloesol.

 

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved