Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd

Monday, 14 November 2016
Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd

Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd

Lansiad y Gronfa Grantiau Bychain -  Ddydd Llun 5 Rhagfyr 2016

Ar ôl llawer o gynllunio mae’r Gronfa Gymunedol a sefydlwyd gan gwmni ynni Vattenfall yn weithredol. Gwerth y Gronfa  yw £1.8 miliwn y flwyddyn er budd cymunedau lleol ym mlaenau cymoedd Afan, Cynon, Nedd a Rhondda. Sefydlwyd Cwmni Buddiant Cymunedol newydd, annibynnol sy'n atebol yn lleol i reoli'r Gronfa ac mae dau aelod o staff wedi cael eu penodi i oruchwylio ac arwain y Gronfa o ddydd i ddydd.

Nid Cronfa gyffredin mo hon, gad taw’r trigolion a'r cymunedau lleol eu hunain sydd wedi diffinio'r blaenoriaethau ariannu. Mae'r Gronfa yn eiddo i'r bobl a fydd yn elwa ohoni.

Ddydd Llun 5 Rhagfyr, byddwn ar daith er mwyn lansio rownd gyntaf y Gronfa Grantiau Bychain.  Bydd hon yn cynnig grantiau untro o hyd at £5,000 i gefnogi agweddau pwysig ar fywyd cymunedol megis prynu eitemau bach o offer, cynnal gweithgareddau a digwyddiadau, rhedeg prosiectau, cefnogi busnesau newydd a darparu hyfforddiant.

 

Fe fyddant yn trafod sut y bydd y Cwmni Buddiannau Cymunedol newydd yn gweithio; yn sôn am y Gronfa yn gyffredinol a'r broses o wneud cais i'r Gronfa Grantiau Bychain yn benodol - gan ateb cwestiynau a chwrdd â chynifer o bobl a bo modd.

 

Maent yn gobeithio y byddwch chi’n gallu ymuno gyda nhw yn un o’r lleoliadau isod, a byddem yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau erbyn dydd Llun 28 Tachwedd pa un sydd orau i chi.  Bydd nifer cyfyngedig o leoedd, felly byddai'n wych pe gallech roi gwybod i ni cyn gynted a bo modd.

 

Os nad ydych yn gallu dod ar y 5ed, peidiwch â phoeni! Fe fyddant yn cynnal sesiynau rheolaidd yn ystod mis Rhagfyr ac Ionawr – mae’r dyddiadau a’r lleoliadau yn eu dyddiadur yn barod, a byddant yn cael eu datgan yn fuan er mwyn i chi alw draw.

 

Marc Phillips

Cadeirydd, Cwmni Buddiant Cymunedol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd

 

 

Opsiwn 1

Cynon

Neuadd Gymunedol Trecynon,

Mill St, Aberdâr CF44 8PA

10.00 hyd 11.30am

Opsiwn 2

Rhondda

Valleys Kids, Penyrenglyn, 

 53/56 Stryd Corbett,  Ystad Libanus Mount, Treherbert,  CF42 5ET

12.45 hyd 14.30pm

Opsiwn 3

Afan

Neuadd y Glowyr Gwynfi,

Jersey Rd, Blaengwynfi, SA13 3TE

15.45 hyd 17.15pm

Opsiwn 4

Nedd

Canolfan Hyfforddiant Glyn-nedd,

Stryd Oldfellows, Castell-nedd, SA11 5DB

18.45 hyd 20.15pm

 

 

Anfonwch e-bost i [email protected] erbyn dydd Llun 28 Tachwedd i gadarnhau pa ddewis sydd orau gennych - ffoniwch 01685 878785

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved