CYFLE I DENDRO ar gyfer Cwmnïau Cymdeithasol

 

 

Monday, 31 October 2016
CYFLE I DENDRO ar gyfer Cwmnïau Cymdeithasol

Mae un o'n partneriaid corfforaethol yn y diwydiant adeiladu yn ymgymryd â phrosiect adeiladu arwyddocaol yn Abergwaun, Sir Benfro sy’n cynnig nifer o gyfleoedd posib i Gwmnïau Cymdeithasol yng Nghymru. Gall y cyfleoedd yma fod o bwys i unrhyw un o’n haelodau sy’n gallu cyflawni gofynion  y prosiect gan fod gwerth ariannol y prosiect hwn yn sylweddol, yn arbennig i’r sawl sydd yn gallu darparu gwasanaethau i'r Diwydiant Adeiladu Masnachol yng Nghymru.

 

1.       Glanhau Adeilad  – Y glanhad diwethaf i’r adeilad cyn ei drosglwyddo i’r perchnogion newydd, sy’n cynrychioli pecyn sylweddol a fydd angen cryn dipyn o waith llafur er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn lân ac yn gymwys i’w ddefnydd o ran pryd a gwedd.  Fe fydd y gwaith yn cynnwys hygyrchedd, a gall hyn olygu llogi peiriannau pellach ac/neu lanhawyr cymwys; fodd bynnag bydd posib negodi a thrafod hynny’n bellach. Bydd gofyn i bob glanhawr arddangos cerdyn ‘CSCS’ gan fyddant ar y safle trwy gydol y gwaith.

2.      Selio Silicon – selio silicon ar gyfer cymalau symudol mewn bricwaith, ffenestri datgelu, offer ymolchfa a meysydd eraill yn ôl yr angen. Fe fydd angen gwaith sylweddol i bob ardal, a siliconau arbenigol fel y cynghorir yn y fanyleb. Eto, bydd disgwyl i’r tendr llwyddiannus meddu ar weithwyr efo’r cardiau CSCS angenrheidiol a diwrnod o hyfforddiant Iechyd a Diogelwch CITB fel sy'n berthnasol; a’r gallu i ddarparu’r holl offer cydymffurfio a hygyrchedd cyfredol y diwydiant.  Pecyn sylweddol o waith llafur a chyflenwi silicon.

3.      Darparu bwyd – yn ystod y prosiect, gallai swm sylweddol o weithwyr werthfawrogi darpariaeth gan wasanaethau arlwyo symudol (sydd eisoes yn masnachu) gall ymweld â’r safle ar adegau penodol.  Busnesau sy’n meddu ar y tystysgrifau hylendid priodol yn unig os gwelwch yn dda, gan fydd mynediad diogel i faes parcio'r safle yn rhan o’r cytundeb. Noder bod niferoedd yn weddol fach ar hyn o bryd (tua 20).

 

Nodwn hefyd fod yna feini prawf penodol sy'n ofynnol er mwyn eich galluogi i gael cymeradwyaeth ar gyfer y gronfa ddata cyflenwi contractwyr cyn i unrhyw archebion cael eu cadarnhau, yn ogystal â’r broses dendro gystadleuol.

 

Fodd bynnag, mae ein partner sydd ynghlwm â’r gwaith yn ymroddedig i ddarparu cyfleoedd ar gyfer Cwmnïau Cymdeithasol yng Nghymru a buasai’n fodlon i weithio gydag unrhyw gwmni sy'n dymuno ennill statws cymeradwyaeth, ac i gynnig cefnogaeth a chyngor fel y bo'n briodol.

 

Pe baech â diddordeb yn yr uchod ac yn gallu cyflenwi yn ôl y gofyn, yna yn y man cyntaf cysylltwch gyda [email protected]  .

 

Edrychwn ymlaen at glywed ganddoch.

 

Cofion cynnes 

San Leonard

Cyfarwyddwr / Director

Cadwch mewn cyswllt gyda ein rhwydwaith cymdeithasol

Ffrwd Twitter

Cylchlythyr Cofrestrwch Up

Tanysgrifio

cookies policy | privacy policy | sitemap

Copyright 2014. All Rights Reserved